Nid oes raid i ddysgwyr ôl-16 oed Chweched Powys wisgo gwisg ysgol benodol wrth fynychu ysgolion / darparwyr addysg. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr wisgo eu bathodyn adnabod / cortyn gwddw Chweched Powys bob amser pan fyddant ar safle’r ysgol(ion).
Bydd y darparwr yn rhoi manylion i’r ysgol gartref am gôd gwisg y darparwr ac unrhyw ddillad neu gyfarpar penodol sydd ei angen ar gyfer y cyrsiau cydweithredol (e.e. cyrsiau ymarferol fel BTEC Chwaraeon, Peirianneg, ayyb). Os oes angen dillad / PPE neu gyfarpar penodol, bydd y darparwr yn eu darparu.
Polisi Chweched Powys yw bod pob myfyriwr sy’n mynychu cyrsiau gyda darparwyr Chweched Powys yn cael eu hannog i wisgo dillad sy’n briodol i’w hamgylchoedd, h.y. Lleoliad addysgol sy’n croesawu plant o bob oed.
Bydd gan bennaeth hawl i benderfynu a yw dilledyn a wisgir gan fyfyriwr o’r ysgol gartref, neu sy’n ymweld â’r ysgol, yn addas i’w wisgo mewn ysgol.
(Mae’r protocol hwn yn un o gyfres o brotocolau ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Gall protocolau gael eu hadolygu a gallent gael eu newid).
Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk
Preifatrwydd | Cookies | Accessibility