Hawl i Ddysgwyr

Ym Mhowys, rydym yn credu y dylai pob dysgwr, beth bynnag fo eu lleoliad, cefndir, iaith, neu allu, ffynnu a thyfu i fod yn ddinasyddion medrus, iach, hyderus ac wedi’u hysbysu’n foesegol, heb unrhyw rwystrau. Bydd pob dysgwr yn cael eu paratoi’n effeithiol i gyfrannu’n llwyr fel unigolion uchelgeisiol, mentrus, ac annibynnol ar gyfer gofynion cymdeithasol ac economaidd lleol, cenedlaethol a byd-eang yr unfed ganrif ar hugain sy’n newid yn gyson.

Bydd darpariaeth Ôl-16 Powys yn cynnig darpariaeth academaidd a galwedigaethol cynhwysol a hyblyg i bob dysgwr, beth bynnag fo eu hiaith neu allu, fel y gall pob dysgwr gael mynediad at gwricwlwm eang, cytbwys a phriodol trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi’n effeithiol i ffynnu trwy weithgareddau cyfoethogi sydd wedi’u cynllunio’n dda a thrwy gefnogaeth a chyfarwyddwyd lles, galwedigaethol a gyrfaoedd pwrpasol. Bydd partneriaethau cryfion yn cael eu meithrin rhwng partneriaid addysg uwch eraill a chyflogwyr i sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn gallu cael eu cynghori’n briodol ar eu camau nesaf. Bydd cyfleoedd pwrpasol yn cael eu datblygu i ymateb yn bositif i lais y disgybl a llais y prif randdeiliaid.

Bydd y ddarpariaeth yn gynaliadwy ac yn cyflwyno gwerth am arian trwy gyfleusterau modern, gwych a neilltuol o’r radd flaenaf a fydd yn cefnogi’r holl ddysgwyr trwy eu bywydau ac yn diwallu anghenion yr economi lleol.

Bydd defnydd dyfeisgar o gyfleoedd dysgu digidol yn cefnogi ac yn ategu’r offer sydd ar gael i sicrhau fod ansawdd ac ehangder y ddarpariaeth yn cael ei chynnal.

Bydd arweinyddiaeth a llywodraethiant yn sicrhau fod yr holl ddarpariaeth o’r safon uchaf ac yn cael ei chyflwyno gan arbenigwyr angerddol, ac ymarferwyr myfyrgar sydd â record ragorol sydd wedi’i phrofi, lle mae’r holl staff a dysgwyr yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr fel rhan o’r sefydliad dysgu. Bydd deilliannau academaidd, galwedigaethol ac allgyrsiol neilltuol o’r lefel uchaf yn sicrhau fod holl ddysgwyr Powys yn cael mynediad at eu llwybrau priodol, ystyrlon a dyheadol.

Bydd darpariaeth Ôl-16 Powys yn meithrin ac yn datblygu cysylltiadau agos gyda holl ysgolion a dysgwyr Powys i ddatblygu synnwyr cryf o berthyn trwy drefniadau pontio effeithiol a chyngor a chyfarwyddyd canolog ac unedig i ddisgyblion. Bydd cefnogaeth ar gael i sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn gwneud dewisiadau sy’n seiliedig ar wybodaeth ac wedi’u hystyried yn dda, gyda chyfathrebu a chysylltiadau gwerthfawr yn cael eu ffurfio gyda’r holl rieni a gofalwyr.

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility