Protocol Cwynion

Protocol Cwynion

 

Pryderon Cychwynnol

 

Dylid cymryd unrhyw bryderon o ddifrif a’u trin, lle bo’n bosib, heb orfod troi at weithdrefnau ffurfiol. Bydd angen dilyn y gweithdrefnau ffurfiol pan fydd ymdrechion cychwynnol i ddatrys y mater yn aflwyddiannus ac mae’r person sy’n codi’r pryder yn parhau i fod yn anfodlon ac am fynd â’r mater ymhellach.

 

Dylai fod gan bob sefydliad berson penodedig fel Swyddog Cwynion.

 

Dylai fod gan bob sefydliad ei Bolisi Cwynion ei hun sy’n cael ei rannu â’r holl randdeiliaid.  Bydd rhan fwyaf o ysgolion Powys yn dilyn polisi cwynion enghreifftiol yr awdurdod lleol.

 

  1. Os yw’r darparwr yn derbyn pryder neu g?yn, dylid rhoi gwybod i’r ysgol gartref yn syth.

 

  1. Bydd yr ysgol gartref yn dynodi person penodedig i ddelio â chwynion. Bydd myfyrwyr yn cael eu hysbysu o’r weithdrefn gwynion a phwy yw’r person cyswllt perthnasol os gwneir cwyn yn ystod y broses gynefino. Bydd staff y darparwr yn cael eu hysbysu o bwy yw’r person cyswllt.

 

  1. Pob tro lle bo’n bosib, bydd yr ysgol gartref yn cysylltu â’r darparwr o fewn dau ddiwrnod gwaith i dderbyn cwyn gan fyfyriwr neu riant / gofalwr a bydd y darparwr yn ceisio datrys y broblem cyn gynted â phosib.

 

  1. Os na fydd cwyn yn cael ei datrys, dylid delio â’r mater drwy ddilyn polisi cwynion enghreifftiol awdurdod addysg lleol Powys, mewn partneriaeth â chyrff llywodraethu’r ddwy ysgol.

 

  1. Os yw’r g?yn yn parhau heb ei datrys, bydd y g?yn yn cael ei chyfeirio at y Bwrdd Rheoli Strategol (SMB) i’w datrys.

 

  1. Rhaid cadw cofrestr o gwynion, camau a gymerwyd, amseroedd a chanlyniadau, yn yr ysgol gartref.

 

(Mae’r protocol hwn yn un o gyfres o brotocolau ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Gall protocolau gael eu hadolygu a gallent gael eu newid).

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility