Protocol Diogelu
Protocol Diogelu
Rhaid i bob darparwr gydymffurfio â’r canllawiau statudol diweddaraf:
Gofal Cymdeithasol Cymru (diogelu.cymru)
Y Swyddog Diogelu Arweiniol Dynodedig yn Awdurdod Lleol Powys yw:
Michael Gedrim - safeguarding.education@powys.gov.uk
Dylai darparwyr sicrhau:
- bod staff / ymwelwyr / myfyrwyr yn ymwybodol o bwy yw Arweinydd / Dirprwy Arweinydd Diogelu Dynodedig y sefydliad.
- bod pob pryder diogelu’n cael ei adrodd yn syth i Arweinydd Diogelu Dynodedig y darparwr a’r ysgol gartref, a’r ysgol gartref a’r darparwr yna’n cytuno ar bwy fydd yn gwneud yr atgyfeiriad os bydd angen.
- bod ganddynt bolisi diogelu plant yn ei le sy’n cyd-fynd â gweithdrefnau cenedlaethol.
- eu bod yn dilyn gweithdrefnau recriwtio mwy diogel a bod yr holl wiriadau priodol yn cael eu gwneud ar staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant.
- bod ganddynt weithdrefnau i ddelio â honiadau o gam-drin yn erbyn staff a gwirfoddolwyr, sy’n cydymffurfio â gweithdrefnau diogelu cenedlaethol ac yn cyfeirio at y Swyddog Dynodedig yn yr Awdurdod Lleol (LADO).
- eu bod yn dynodi uwch-aelod o staff i fod yn bennaf gyfrifol am ddelio â materion diogelu plant, rhoi cyngor a chymorth i staff eraill, cynnal cyswllt â’r awdurdod lleol a gweithio ag asiantaethau eraill. Rhaid i’r person dynodedig hwn neu hon fod â’r statws ac awdurdod priodol yn y strwythur rheoli.
- yn ogystal â hyfforddiant amddiffyn plant sylfaenol, bod y swyddog arweiniol dynodedig yn derbyn hyfforddiant gofynnol ychwanegol yr Awdurdod Addysg ar gyfer arweinwyr diogelu mewn ysgolion.
- bod pob aelod arall o staff sy’n gweithio gyda phlant yn derbyn yr hyfforddiant priodol er mwyn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau amddiffyn plant yn effeithiol. Fel rhan o hyn, mae’n bwysig bod gwybodaeth staff am ddiogelu plant yn cael ei diweddaru a’i gloywi’n rheolaidd.
- bod yswiriant wedi’i drefnu ar gyfer myfyrwyr.
- bod asesiadau risg Iechyd a Diogelwch yn cael eu gwneud ar gyfer safle’r darparwr a thasgau penodol.
- bod asesiadau risg Iechyd a Diogelwch o anghenion penodol myfyrwyr bregus (fydd wedi eu hadnabod gan yr ysgol) yn cael eu gwneud, gan ystyried nodweddion iechyd, cymdeithasol a phersonol yn ogystal ag oed a phrofiad.
Am fwy o wybodaeth am fathau o gam-drin ac esgeulustod ac at bwy i gyfeirio am ganllawiau arbenigol ar faterion diogelu penodol, dylid darllen Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn:
Gofal Cymdeithasol Cymru (diogelu.cymru)
Cymorth Drws Ffrynt Powys i blant, pobl ifanc a theuluoedd
Dyma’r pwynt mynediad i Wasanaethau Plant ym Mhowys a lle y gall teuluoedd fynd am wybodaeth, cyngor a chymorth. Oddi yma, mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu symud ymlaen naill ai i’r Tîm Cymorth i Deuluoedd am gymorth cynnar, neu i’r Tîm Asesu os yw’n glir bod angen asesiad.
I atgyfeirio at y Gwasanaethau Plant neu am wybodaeth, cyngor a chymorth:
Ffoniwch - 01597 827666 (Opsiwn, Opsiwn 1) i siarad ag aelod o staff.
(Mae’r protocol hwn yn un o gyfres o brotocolau ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Gall protocolau gael eu hadolygu a gallent gael eu newid).