Protocol Cludiant

Mae gan bob sefydliad sy’n anfon eu myfyrwyr i ddarparwr arall ddyletswydd gofal tuag atynt.

Trefnu cludiant

Rhaid i’r holl drefniadau teithio gael eu cymeradwyo gan yr ysgol gartref a’r darparwr. Rhaid bod yn glir pwy sy’n trefnu’r cludiant, e.e. yr SMB / OMB, yr awdurdod lleol, yr ysgol gartref, neu ddarparwr arall.

Rhaid i’r ysgol gartref a’r darparwr sicrhau:

  • bod person penodedig yn gyfrifol am gadw trosolwg ar y trefniadau cludo rhwng ysgolion

  • bod yr amseroedd teithio’n hysbys i bawb

  • bod eglurder o ran talu (lle bo’n berthnasol)

  • os bydd myfyrwyr yn cyrraedd adre’n hwyrach nag ar ddiwrnod ysgol arferol, eu bod yn hysbysu’r rhieni / gofalwyr o’r amser dychwelyd

  • bod yr holl bartïon wedi eu hysbysu o’r trefniadau os oes unrhyw drafferthion teithio i / o’r darparwr, h.y. pwy sy’n gyfrifol am gysylltu â rhieni / gofalwyr, pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd adre’n ddiogel a bod myfyrwyr wedi eu briffio am:

    • yr ymddygiad sydd i’w ddisgwyl wrth deithio

    • iechyd a diogelwch, e.e. gwregysau diogelwch, dod oddi ar y bws yn ddiogel, aros yn eu sedd tan fydd y bws wedi stopio ayyb

    • beth i’w wneud os bydd damwain yn digwydd

    • beth i’w wneud os bydd y tywydd yn ddrwg

Fel arfer, ymdrinnir ag unrhyw ymddygiad annerbyniol o dan weithdrefn ddisgyblu arferol yr ysgol gartref.

Diogelu

Rhaid i’r sefydliad sy’n darparu’r cludiant, neu’r darparwr cludiant dan gontract, sicrhau:

  • y gwnaed gwiriadau DBS ar gyfer gyrwyr / staff goruchwylio (oni bai y defnyddir trafnidiaeth gyhoeddus)

  • y gwnaed asesiadau risg ar gyfer y cludiant a’r teithio

  • y cafwyd unrhyw drwydded angenrheidiol

  • y cafwyd caniatâd rhieni / gofalwyr (ac ar gyfer unrhyw newid mewn cynlluniau wedyn) - wele Atodiad 1 os gwelwch yn dda

  • y cafwyd caniatâd yr ysgol a’r rhieni / gofalwyr (ac ar gyfer unrhyw newid mewn cynlluniau wedyn)

  • bod trefniadau clir yn eu lle ar gyfer goruchwylio myfyrwyr: mynd ar y bws, tra byddant ar y bws, dod oddi ar y bws ac yn ystod y siwrne, lle bo’n berthnasol

  • bod rhifau cyswllt priodol wedi eu gadael gyda’r sefydliad, y rhiant / gofalwr, y darparwr a’r myfyriwr

  • bod myfyrwyr wedi eu hysbysu i beidio â derbyn lifft adref gan staff y darparwr (heblaw o dan y trefniadau teithio dynodedig)

  • bod trefniadau wedi eu gwneud i hebrwng myfyrwyr bregus sy’n teithio ar ben eu hunain, e.e. gydag anghenion dysgu, anableddau corfforol

  • bod trefniadau wedi eu gwneud fel bod myfyrwyr sydd fel arfer yn derbyn cymorth teithio i fynd nôl a blaen i’r ysgol, yn derbyn y cymorth hwn wrth deithio i safle darparwr arall.

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility