Protocol Ymddygiad Da

Protocol Hinsawdd ar gyfer Dysgu

 

Ethos / disgwyliadau

 

Er mwyn hyrwyddo hinsawdd dysgu adeiladol, mae partneriaeth waith agos a chyfathrebu rheolaidd rhwng yr ysgol gartref a’r darparwr yn hanfodol. Rhaid felly cael person cyswllt penodedig yn yr ysgol gartref, ac ar safle’r darparwr, i fod yn gyfrifol am gyfathrebu.

 

Dewisiadau priodol

 

Pan fydd unigolyn yn ystyried rhaglen addysg gydweithredol, disgwylir i sefydliadau gefnogi myfyrwyr sydd â gobaith realistig o lwyddo drwy ddilyn y cwrs dan sylw, ym marn broffesiynol y staff sydd wedi gweithio â’r myfyrwyr. Mae ymrwymiad a chymhwysedd y myfyriwr yn ofynion hanfodol ond rhaid hefyd ystyried y ffaith y gallai’r rhaglen fod yn cael ei darparu mewn amgylchoedd anghyfarwydd. Mae’n greiddiol bwysig felly bod gan fyfyrwyr a rhieni / gofalwyr ddealltwriaeth glir o’r rhaglen, bod y cymorth a’r arweiniad priodol wedi’i roi a bod myfyrwyr yn ymwybodol o ddisgwyliadau a chodau ymarfer y darparwr.

 

Dylid bob amser ystyried y protocol cynhwysiant wrth roi cyngor i fyfyrwyr er mwyn sicrhau bod gan bob myfyriwr gyfle cyfartal beth bynnag yw eu gallu, oed, rhywedd, tarddiad ethnig, cred grefyddol, nam, statws mewn gofal, rhywioldeb neu gefndir cymdeithasol neu economaidd. Dylai’r holl bartneriaid perthnasol dalu sylw penodol i ddarparu ar gyfer, ac i gyflawniad, gwahanol grwpiau o ddysgwyr.

 

Gwybodaeth gefndir briodol

 

Rhaid i’r ysgol gartref ddarparu gwybodaeth am bob myfyriwr i staff y darparwr, cyn i’r myfyriwr ddechrau dysgu.

 

Hyrwyddo a gwobrwyo ymddygiad positif

 

Dylid cydnabod a chanmol ymddygiad positif. Mae trafodaeth rhwng yr ysgol gartref a’r darparwr am sut i sicrhau ymddygiad positif yn hanfodol a dylai oleuo sut fydd y dulliau hyn yn gweithio i fyfyrwyr sy’n derbyn rhaglen addysg gydweithredol. Y person cyswllt penodedig yn yr ysgol gartref, ac ar safle’r darparwr arall, fydd yn gyfrifol am gyfathrebu llwyddiant.

 

Gweithio mewn partneriaeth / rheoli pryderon

 

Rheolir ymddygiad myfyriwr yn fwyaf effeithiol pan fydd yr holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd ac ar sail gyson. Mae’n hanfodol bod y personau cyswllt penodedig yn rhannu gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau ar reoli pryderon neu ymddygiad gwael rhwng y darparwr a’r ysgol gartref. Dylid hefyd egluro’r ethos a disgwyliadau ymddygiad yn glir i fyfyrwyr yn ystod y broses gynefino (wele’r Protocol Cynefino).

 

Ni ddylid byth gwahardd myfyrwyr o safle’r darparwr a’u hanfon adref heb gytundeb yr ysgol gartref ymlaen llaw. Bydd yr ysgol gartref yn cysylltu â rhieni (am resymau diogelu). Os nad yw’r rhieni ar gael, bydd yr ysgol gartref yn cymryd cyfrifoldeb am y myfyriwr.

 

Ymddygiad annerbyniol

 

Mae ymyrryd yn gynnar yn eithriadol bwysig. Dylai cyfathrebu rheolaidd rhwng y ddau sefydliad leihau unrhyw achosion o ymddygiad gwael. Y staff priodol ar safle’r darparwr a ddylai ddelio ag achosion o ymddygiad gwael.

Dylai’r darparwr addysg cydweithredol gadw cofnodion a’u cyflwyno i’r person penodedig yn yr ysgol gartref.

 

Camymddwyn difrifol

 

Mae camymddwyn difrifol yn cynnwys:

 

  • aflonyddu parhaus
  • cam-drin geiriol / corfforol, bygwth a brawychu
  • bwlio (gan gynnwys seiber-fwlio)
  • difrod i eiddo
  • dwyn
  • bod ym meddiant, neu gyflenwi, sylwedd anghyfreithlon
  • bod ym meddiant arf ymosodol
  • harasio ac ymddygiad rhagfarnllyd

 

Os bydd camymddwyn difrifol yn digwydd, rhaid cysylltu â’r ysgol gartref cyn gynted â phosib, a mabwysiadu’r gweithdrefnau canlynol:

 

  • Gellir trafod y digwyddiad ar lefel uwch yn sefydliad y darparwr a bydd y mater hefyd yn cael ei adrodd i’r person penodedig yn yr ysgol gartref a allai gyfeirio’r mater at staff uwch yn eu hysgol.
  • Rhaid cwblhau adroddiad digwyddiad yn disgrifio’r mater(ion).
  • Lle bo hynny’n briodol a thrwy drafod â’r ysgol gartref, gellir gwahardd y myfyriwr dros dro o’r cwrs. Ar ôl derbyn y wybodaeth angenrheidiol, bydd yr ysgol gartref yn delio â’r digwyddiad fel y gwêl yn briodol.
  • Cyfrifoldeb yr ysgol gartref yw sicrhau bod trafodaeth yn cael ei chynnal rhwng yr holl randdeiliaid i benderfynu ar y camau nesaf / sut i ail-gyflwyno’r myfyriwr cyn gynted â phosib i osgoi unrhyw doriad diangen i’w haddysg.
  • Dylid hysbysu’r SMB ac arweinyddiaeth Chweched Powys o bob digwyddiad o gamymddwyn difrifol, ac unrhyw gamau a gymerwyd gan yr ysgol gartref a’r darparwr i ddelio â / datrys y sefyllfa.

 

 

(Mae’r protocol hwn yn un o gyfres o brotocolau ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Gall protocolau gael eu hadolygu a gallent gael eu newid).

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility