Protocol Amser Cinio ac Egwyl

Cyfrifoldebau

Mae gan ysgolion ddyletswydd gofal tuag at fyfyrwyr yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys dros amser cinio. Er nad oes ymarfer cyffredin ym Mhowys ar gyfer trefniadau amser cinio, mae’n gyffredin ar draws y wlad i lawer o fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 5 gael mynd oddi ar y safle.

Bydd myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu ar safle darparwr arall yn destun rheolau amser cinio / egwyl y darparwr hwnnw a dylent eu parchu.

Bydd yr ysgol gartref yn gyfrifol am roi gwybod i’r darparwr am unrhyw faterion yn ymwneud â myfyrwyr bregus a ddylai gael eu goruchwylio gan y darparwr yn ystod amser cinio / egwyl.

Prydau ysgol am ddim

  • Bydd yr ysgol gartref yn rhoi gwybod i’r darparwr oes yw dysgwyr yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
  • Cyfrifoldeb y darparwr addysg arall yw gweinyddu prydau ysgol am ddim.
  • Bydd anfoneb am brydau ysgol am ddim yn cael ei chyflwyno i’r ysgol gartref bob tymor.

(Mae’r protocol hwn yn un o gyfres o brotocolau ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Gall protocolau gael eu hadolygu a gallent gael eu newid).

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility