Sbaeneg


Trosolwg o'r cwrs

Mae manyleb UG a Safon Uwch Sbaeneg CBAC yn cynnig cyfle diddorol a chyffrous i ddysgwyr adeiladu ar eu hastudiaeth flaenorol o Sbaeneg. Drwy themâu cymdeithasol, deallusol a diwylliannol bydd dysgwyr yn gallu datblygu eu gwybodaeth ieithyddol a'u dealltwriaeth ddiwylliannol o'r gwledydd neu gymunedau lle mae'r iaith yn cael ei siarad. Bydd cyfle i astudio llenyddiaeth a ffilm yn caniatáu i ddysgwyr wneud dadansoddiad dyfnach o strwythurau iaith a chynyddu eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol fel rhan o ymagwedd integredig at ddysgu iaith.
Rhoddir ffocws cryf ar feithrin hyder a rhuglder dysgwyr wrth siarad Sbaeneg gan ddefnyddio themâu perthnasol ac amserol. Nod y gofyniad i ymchwilio i faes sydd o ddiddordeb personol sy'n gysylltiedig â'r wlad neu'r gwledydd lle mae'r iaith astudio yn cael ei siarad yw gwella gwerthfawrogiad diwylliannol y dysgwyr a'u galluogi i feithrin ymwybyddiaeth well o wahaniaethau rhwng diwylliannau.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/sbaeneg-ug-safon-uwch/#tab_keydocuments

Cyfleoedd

Ar ol cwblhaur rhaglen, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i sawl cwrs yn y Brifysgol, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant.

https://gyrfacymru.llyw.cymru/gwybodaeth-am-swyddi/erthygl/ieithoedd-tramor-modern

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/0796/6

  Cymhwyster: A Level

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility