Cymraeg Mamiath


Trosolwg o'r cwrs

Mae ein manyleb UG/Safon Uwch Cymraeg Iaith yn annog dysgwyr i ddatblygu eu diddordeb a'u brwdfrydedd yn y Gymraeg ac mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Y nod yw datblygu sgiliau'r dysgwyr i fynegi eu hunain yn hyderus ac yn llawn dychymyg yn y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn ogystal â datblygu eu gallu i ymateb i lenyddiaeth a deunyddiau diwylliannol amlgyfrwng cyfoes gan ennyn gwerthfawrogiad o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/cymraeg-iaith-ug-safon-uwch/#tab_keydocuments

Cyfleoedd

Mae'r sgiliau y gallwch eu meithrin wrth ddysgu Cymraeg yn ddefnyddiol mewn sawl gyrfa. Hyd yn oed os na fyddwch yn dymuno gweithio yng Nghymru yn y dyfodol, bydd y sgiliau sydd gennych oherwydd eich bod yn ddwyieithog yn cael eu hystyried yn beth cadarnhaol gan nifer o gyflogwyr. Mae i'r Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru, sy'n golygu ei bod yn cael ei chydnabod gan y gyfraith. Felly, mae'r Gymraeg yn bwysig, a gall agor y drws at nifer o swyddi. Mae rhai swyddi yng Nghymru yn gofyn bod y Gymraeg naill ai'n hanfodol neu'n ddymunol. https://gyrfacymru.llyw.cymru/gwybodaeth-am-swyddi/erthygl/cymraeg

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/0723/5

  Cymhwyster: A Level

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility