Cyfrifiadureg


Trosolwg o'r cwrs

Cafodd Lefel AS a Lefel A Cyfrifiadureg CBAC eu cynllunio i roi dealltwriaeth ddofn o gysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg a chwmpas eang o gyfleoedd astudio.

Yn yr oes gynyddol dechnolegol hon, mae astudiaeth o gyfrifiadureg, ac yn enwedig sut gaiff cyfrifiaduron eu defnyddio i ddatrys amrywiaeth o broblemau, nid yn unig yn werthfawr i’r dysgwr ond hefyd yn hanfodol i ddyfodol y wlad o ran llesiant. Mae Cyfrifiadureg yn integreiddio’n dda â phynciau ar draws y cwricwlwm. Mae’n gofyn cael disgyblaeth rhesymegol a chreadigrwydd dychmygus wrth ddethol a dylunio algorithmau ac ysgrifennu, profi a dadfygio rhaglenni; mae’n dibynnu ar ddealltwriaeth o reolau iaith ar lefel sylfaenol: mae’n annog ymwybyddiaeth o reoli a threfnu systemau cyfrifiadur; mae’n estyn gorwelion y dysgwyr y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol neu goleg wrth werthfawrogi effeithiau cyfrifiadureg ar gymdeithas ac unigolion. Am y rhesymau hynny, mae cyfrifiadureg yr un mor berthnasol i ddysgwr sy’n astudio pynciau celfyddydol ag ydyw i ddysgwyr sy’n astudio pynciau gwyddonol.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/cyfrifiadureg-ug-safon-uwch/#tab_keydocuments

Cyfleoedd

Ar ol cwblhaur rhaglen, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i sawl cwrs yn y Brifysgol, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant.

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/0722/5

  Cymhwyster: A Level

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility