Cemeg


Trosolwg o'r cwrs

Mae Safon Uwch CBAC mewn Cemeg yn darparu cwrs astudio sy'n eang,
cydlynol, boddhaol a gwerth chweil. Mae'n annog dysgwyr i ddatblygu eu hyder
ym maes cemeg, ac i fod ag agwedd gadarnhaol tuag at y pwnc ac i gydnabod
pa mor bwysig yw cemeg yn eu bywydau bob dydd ac i'r gymdeithas.

Mae gwaith ymarferol yn rhan hanfodol o'r maes cemeg, ac mae addysg uwch yn
hynod werthfawrogol ohono. Mae'n hanfodol bod sgiliau ymarferol yn cael eu
datblygu yn ystod y cwrs a bod dull ymchwiliol yn cael ei hybu hefyd pryd bynnag y
bo'n bosibl.

Manyleb: https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/cemeg-ug-safon-uwch/#tab_keydocuments

Cyfleoedd

Cemeg yw’r wyddoniaeth sy’n astudio cyfansoddiad pethau a sut maen nhw’n gweithio, yn cynnwys sut byddan nhw’n newid neu’n ymateb wrth ddod i gysylltiad â phethau eraill.

Mae’n cynnwys popeth o’r elfennau, blociau adeiladu elfennol bywyd, i rôl cemegau yn y cefnforoedd a’r amgylchedd.

Mae pobl sydd â gwybodaeth o gemeg yn gweithio mewn amrywiaeth helaeth o feysydd. Byddan nhw’n datblygu ein gwybodaeth o’r byd, datrys problemau, gwella diogelwch a chreu cynhyrchion a phrosesau newydd.

Mae'r erthygl hon yn trafod rhai o'r gyrfaoedd niferus yn y maes hwn: https://gyrfacymru.llyw.cymru/gwybodaeth-am-swyddi/erthygl/gyrfaoedd-cemeg

Gwybodaeth allweddol

Mae mwyafrif y cyrsiau'n ddwy flynedd o hyd oni nodir yn wahanol.

  Cod QiW: C00/0724/4

  Cymhwyster: A Level

Mae'r holl gyrsiau'n gywir adeg eu huwchlwytho. Dim ond os oes niferoedd digonol y gall cyrsiau redeg.

Darparwyr

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility