Protocol Cynefino
Gofynion
Mae proses gynefino drylwyr yn bwysig iawn i ddiogelu buddiannau dysgwyr sy’n gweithio i ffwrdd o’r ysgol gartref ar gwrs astudiaeth neu hyfforddiant. Mae hefyd ei angen i ddiogelu buddiannau’r darparwr a’r ysgol gartref.
Ar gyfer cynefino, rhaid cael partneriaeth rhwng yr ysgol gartref a’r darparwr i sicrhau bod cwrs yn briodol i anghenion y dysgwr, yn cynnig amgylchedd diogel, yn cynnwys y dysgwyr yn y broses o ddiogelu eu buddiannau, ac yn hyrwyddo cyflwyniad hapus i’r sefyllfa newydd.
Y broses gynefino yn yr ysgol gartref
Dyma’r pethau y bydd angen eu trafod:
Y broses gynefino ar safle’r darparwr
Bydd angen i’r darparwr ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth ddigonol yn ôl anghenion y dysgwr. Mae hyn yn dechrau drwy gynefino â’r sefydliad a’r cwrs. Bydd hefyd yn cynnwys, o leiaf:
Mae’n ymarfer da cofnodi unrhyw hyfforddiant iechyd a diogelwch a roddir a chadarnhau dealltwriaeth wedyn. Bydd staff y darparwr yn ymddwyn fel modelau rôl mewn materion iechyd a diogelwch ac i gadarnhau rheolau a gweithdrefnau.
Bydd y darparwr yn sicrhau bod rhestr wirio cynefino’n cael ei chwblhau ac yn rhoi copi i’r ysgol gartref a’r myfyriwr.
(Mae’r protocol hwn yn un o gyfres o brotocolau ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Gall protocolau gael eu hadolygu a gallent gael eu newid).
Rhestr Wirio Cynefino – Yr Ysgol Gartref
|
|
Dyddiad |
Nodiadau / pwyntiau gweithredu |
Llofnod yr ysgol gartref |
1. |
Mae myfyrwyr wedi eu hysbysu o beth i’w wneud mewn achos o salwch neu resymau dilys eraill dros fod yn absennol oddi ar safle’r darparwr. |
|
|
|
2. |
Mae trefniadau cludiant a threfniadau diogelwch yn ystod cludiant wedi eu trafod. |
|
|
|
3. |
Mae manylion llawn y cwrs a’r asesu wedi eu trafod â’r myfyrwyr, gan gynnwys eu cyfrifoldeb i gwblhau’r holl waith. |
|
|
|
4. |
Rhoddwyd manylion y person cyswllt penodedig yn yr ysgol gartref os bydd problemau’n codi. |
|
|
|
5. |
Mae trefniadau yn eu lle i fyfyrwyr sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. |
|
|
|
6. |
Mae trefniadau yn eu lle ar gyfer myfyrwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwybodaeth wedi’i rhoi i ysgol y darparwr. |
|
|
|
7. |
Mae rhieni wedi eu gwneud yn ymwybodol o’r gweithdrefnau uchod a chafwyd caniatâd rhieni ar gyfer trefniadau cludiant ac amser cinio. |
|
|
|
8. |
Mae trefniadau yn eu lle ar gyfer myfyrwyr sydd angen gweinyddu meddyginiaeth iddynt. |
|
|
|
9. |
Mae myfyrwyr yn gwybod beth yw amseroedd y sesiynau. |
|
|
|
10. |
Mae myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw ofynion dillad / PPE / cyfarpar. |
|
|
|
11. |
Mae myfyrwyr yn ymwybodol o’r polisi ffonau symudol. |
|
|
|
Rhestr Wirio Dysgwr
Y Weithdrefn Gynefino |
Ticiwch os gwelwch yn dda |
Cefais daith dywys o gwmpas safle’r darparwr. |
|
Cefais fy nghyflwyno i staff allweddol ar safle’r darparwr. |
|
Rwy’n gwybod beth yw’r trefniadau os bydd tân yn digwydd. |
|
Rwy’n gwybod am y polisi a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch. |
|
Rwy’n gwybod beth i’w wneud os oes angen cymorth cyntaf ac mae angen meddyginiaeth arbenigol arnaf. |
|
Rwy’n gwybod gyda phwy i gysylltu, yn yr ysgol ac ar safle’r darparwr, os oes problem ‘da fi. |
|
Rwy’n gwybod beth yw’r trefniadau os oes rhaid i mi adael y safle. |
|
Rwy’n gwybod beth i’w wneud os wyf yn absennol neu’n hwyr am sesiwn. |
|
Rwy’n deall y trefniadau cludiant. |
|
Rwy’n gwybod am y trefniadau amser cinio ac egwyl. |
|
Rwyf wedi derbyn copi o’r llawlyfr myfyrwyr. |
|
Rwy’n gwybod pa gwrs / gyrsiau yr wyf yn eu cymryd. |
|
Mae ‘da fi Gynllun Dysgu Unigol ac rwy’n gwybod pwy yw fy mentor neu weithiwr allweddol. |
|
Rwy’n gwybod sut y mae’r systemau ymddygiad, gwobrwyo a chanlyniadau’n gweithio. |
|
Rwyf wedi llofnodi a deall y Polisi Defnydd Derbyniol. |
|
Rwy’n gwybod beth yw polisi’r darparwr ar ffonau symudol. |
|
Rwy’n gwybod beth yw’r gofynion presenoldeb ar gyfer fy nghwrs. |
|
Rwy’n gwybod y cefais fanylion ar gyfer amseroedd dechrau a gorffen y diwrnod, a phryd yw’r amseroedd cinio ac egwyl. |
|
Rwy’n gwybod pryd fydd fy adolygiad(au). |
|
Enw’r dysgwr: __
Llofnod:
Enw aelod o staff ar safle’r darparwr:
Llofnod:
Ysgol:
Enw’r darparwr:
Dyddiad:
Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk
Preifatrwydd | Cookies | Accessibility