e-sgol

Ar hyn o bryd mae Powys yn profi chwyldro dysgu digidol! Yn ddiweddar wnaethon ni gofrestru â phrosiect Llywodraeth Cymru e-sgol. Mae hwn yn rhoi dysgu digidol wrth wraidd y ffordd rydym yn dysgu ein cyrsiau.

Beth yw e-sgol?

Project yw e-sgol a noddir gan Lywodraeth Cymru i ehangu cyfleoedd i ddisgyblion ôl-14 astudio cyrsiau na fyddai ar gael iddynt fel arall. Mae’r gwersi yn digwydd trwy gyfrwng cyswllt electronig byw gydag athro tra bo’r disgyblion yn gallu aros yn eu hysgolion.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r gwersi yn cael eu darparu yn ysgol y disgybl trwy gyfrwng electronig. Gwersi ‘byw’ yw’r rhain gan athro profiadol a chymwys. Mae’r athro wedi ei leoli mewn ysgol arall.

Grwpiau bach o ran nifer yw’r grwpiau o ddisgyblion ac maent yn cyfathrebu gyda’r athro o’u hysgol drwy system ddarlledu byw e-sgol.

Mae’r athro yn medru rhoi adborth ar waith y disgybl yn fyw trwy gyfrwng y system a gall y disgyblion gyfrannu at y wers ar lafar yn union fel petai’r athro yno yn yr ystafell gyda nhw.

Pa offer a fydd ar gael?

Yn ddibynnol ar y pwnc, gall disgybl hefyd dderbyn cliniadur personol i’w ddefnyddio dros hyd y cwrs.

Mwy o wybodaeth?

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau penodol, cysylltwch â: powys@e-sgol.cymru

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility