ADY

I nifer o blant a phobl ifanc nid yw'r anghenion dysgu ychwanegol yma'n rhai difrifol neu gallant fod yn rhai dros dro, megis dysgu iaith newydd. Fodd bynnag, i rai, mae'r heriau maen nhw'n eu hwynebu yn mynd i fod gyda hwy am gryn amser ac yn golygu bod angen i'r ysgol, rhieni, y plentyn/person ifanc a'r awdurdod lleol, (weithiau gydag asiantaethau eraill) weithio gyda'i gilydd i gynllunio, gweithredu ac adolygu unrhyw gymorth neu ddarpariaeth ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw. O fis Medi 2020 ymlaen bydd y cymorth ychwanegol hwn yn cael ei alw'n ddarpariaeth dysgu ychwanegol.

Mae gan holl ysgolion Powys ystod o wasanaethau cymorth fel eu bod yn gallu adnabod dysgwyr sy'n cael anhawster gyda'u dysgu ac yn darparu cymorth ychwanegol ar eu cyfer.

Sut i gael Cymorth

Yn gyffredinol, mae cymorth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn dilyn 'ymateb graddedig'. Mae hynny'n golygu ein bod yn cynyddu'r cymorth os nad ydynt yn ymateb fel y byddem wedi gobeithio i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn wreiddiol i wella'r cynnydd.

Visit powys.gov.uk

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility