Bagloriaeth Cymru

Mae'r rhan fwyaf o'r darparwyr dysgu ym Mhowys yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Uwch Cymru.


Beth ydy o?

Nod Bagloriaeth Cymru yw galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos dealltwriaeth o'r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer cyflogadwyedd. Dyma'r sgiliau y mae cyflogwyr a sefydliadau addysg bellach yn eu gwerthfawrogi a’r rhai sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer dysgu, gwaith a bywyd.

Felly ... nid Cymraeg ydy o?

Nage!

Sut mae’n cael ei asesu?

Cyflwynir Bagloriaeth Cymru dros ddwy flynedd, gan ddechrau ym Mlwyddyn 12. Nid oes arholiad yn y cwrs ac mae’n cael ei raddio o A* i E.

Pwy sy'n ei dderbyn?

Mae ymatebion prifysgolion i'r cymhwyster CBC (WBQ) newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac maent yn cydnabod gwerth y fanyleb newydd sy’n fwy trylwyr. Mae llawer o brifysgolion wedi bod yn cysylltu â CBAC i gynhyrchu heriau a fydd yn helpu myfyrwyr i baratoi'n well i drosglwyddo o Safon Uwch i astudio mewn Addysg Uwch.

Ynghylch

Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk

Preifatrwydd | Cookies | Accessibility