Mae ein darparwyr dysgu’n cynnig llawer o gyfleoedd ar ben eich astudiaethau gan gynnwys rhaglen cyfoethogi dysgu gwych a chyfleoedd chwaraeon.
Prifysgol
Mae'r rhan fwyaf o'n Dosbarthiadau Chwech yn darparu gwybodaeth am UCAS a'r broses o ymgeisio am le mewn prifysgol. Trefnir teithiau rheolaidd i brifysgolion ar gyfer dyddiau agored ar draws y flwyddyn.
Siaradwyr
Mae ein Dosbarthiadau Chwech yn manteisio ar siaradwyr gwadd sy'n eu hannerch ar amrywiaeth o bynciau, er enghraifft cyllid myfyrwyr neu ddod o hyd i brentisiaeth.
Llais ac Arweinyddiaeth Dysgwyr
Mae'r rhan fwyaf o'n Dosbarthiadau Chwech yn caniatau i fyfyrwyr ymgymryd a rol arweinyddiaeth ysgol gyfan ar bynciau fel codi arian, y gymuned neu gyngor yr ysgol. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn dewis Prif Fachgen a Phrif Ferch i fod yn llais dros y myfyrwyr. Mae gan Rwydwaith 14-19 Powys grwp ymgynghorol i fyfyrwyr, ac mae'n cynnwys disgyblion hyn o sefydliadau'r holl ddarparwyr dysgu, i wneud sylwadau ac awgrymu newidiadau ar draws y rhwydwaith.
Teithiau
Mae rhai o'n Dosbarthiadau Chwech wedi bod ar dripiau'n ddiweddar i Galiffornia, Gwlad Pwyl a'r Almaen.
Gyrfaoedd
Mae gan bob Dosbarth Chwech fynediad i Gynghorydd Gyrfa o Gyrfa Cymru, a bydd ef neu hi'n gallu rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar fyd gyrfaoedd.
Cheweched Powys Sixth wedi'i gnoi a ddarperir gan Gyngor Sir Powys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â post16@powys.gov.uk
Preifatrwydd | Cookies | Accessibility